Neidio i'r cynnwys

William John Gruffydd

Oddi ar Wicipedia
William John Gruffydd
W. J. Gruffydd tua diwedd ei yrfa ym Mhrifysgol Caerdydd
GanwydWilliam John Griffith
14 Chwefror 1881
Bethel, Sir Gaernarfon, Cymru
Bu farw29 Medi 1954(1954-09-29) (72 oed)
AddysgYsgol Sir Caernarfon (ddaeth yn ddiweddarach yn Ysgol Syr Hugh Owen, Coleg yr Iesu, Rhydychen
GwaithBardd, ysgolhaig, dramodydd, beirniad, golygydd, gwleidydd
CyflogwrPrifysgol Caerdydd
Gweithiau nodedigGweithiau llenyddol: Telynegion, Ynys yr Hud a Cherddi Eraill, Caniadau (casgliadau); Ynys yr Hud. Y Tlawd Hwn, 1914-1918: Yr Ieuainc wrth yr Hen, Gwladys Rhys a Thomas Morgan yr Ironmonger (cerddi unigol); Beddau'r Proffwydi (drama); Hen Atgofion (ysgrifau).
PriodGwenda Gruffydd
RhieniJohn Griffith, Jane Elisabeth Griffith
GwobrauCoron yr Eisteddfod Genedlaethol (1909)

Bardd, ysgolhaig, dramodydd, golygydd a gwleidydd Cymreig oedd William John Gruffydd neu W. J. Gruffydd (14 Chwefror 188129 Medi 1954).[1]

Roedd yn un o feirdd Cymraeg pwysicaf degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif,[2] ac yn rhinwedd ei weithgarwch llenyddol ac ysgolheigiol, a'i duedd i fynegi ei farn yn ddi-flewyn ar dafod, roedd yn un o ffigurau cyhoeddus amlycaf bydoedd llenyddol ac ysgolheigiol Cymru rhwng y ddau ryfel byd. Bu'n Aelod Seneddol dros sedd Prifysgol Cymru o 1943 i 1950.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Bywyd Cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed ef yng Nghorffwysfa, Bethel, yn fab i John a Jane Elisabeth Griffith. Chwarelwr oedd John Griffiths. Nododd Gruffydd mai gyda'i fam oedd ganddo'r berthynas gryfach.[3] Methodistiaid Calfinaidd oedd ei rieni, a byddai Gruffydd yn gapelwr drwy'i oes.

Aeth i'r Ysgol Frytanaidd ym Methel, ac oddi yno daeth yn un o ddisgyblion cynharaf Ysgol Sir Caernarfon (a fyddai'n troi'n ddiweddarach yn Ysgol Syr Hugh Owen), a chyfrannodd gerddi ac ysgrifau (yn Saesneg) at bapur newydd yr ysgol. Dechreuodd arddel y sillafiad Cymraeg o'i gyfenw yn 1895 er mwyn gwahaniaethu'i hun â chyd-ddisgybl.[4]

Rhydychen: 1899-1902

[golygu | golygu cod]
Coleg yr Iesu, Rhydychen, lle bu Gruffydd yn fyfyriwr.

Roedd yn fyfyriwr disglair a'i fryd ar ddod yn awdur Saesneg, ac yn 1899 enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen lle byddai'n astudio llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg yr Iesu.[1] Yr haf cyn iddo ymadael am Rydychen, cyfarfu â'r bardd R. Silyn Roberts, oedd ddeng mlynedd yn hŷn nag ef. Bu Silyn yn ddylanwad hynod bwysig ar y bardd ifanc: yn sgil eu partneriaeth perswadiwyd Gruffydd i farddoni yn Gymraeg, ac yn null rhamantaidd y bardd hŷn.[5] Canlyniad yr haf hwn oedd cyhoeddi'r gyfrol Telynegion ar y cyd â Silyn, sef cyhoeddiad cyntaf y bardd ifanc yn Gymraeg. Silyn oedd prif awdur y gyfrol (nododd Gruffydd yn ddiweddarach na chafodd yntau odid ddim dylanwad ar gyfraniadau Silyn i'r gyfrol, er i Silyn fynnu gwneud nifer o newidiadau i'w gerddi ef), ac er na fu gan Gruffydd feddwl mawr o'i gyfraniadau ei hun i'r gyfrol yn ddiweddarach (ni fyddai'n dewis yr un ohonynt mewn detholiadau o'i farddoniaeth yn hwyrach yn ei fywyd), ystyriwyd y cyhoeddiad yn arwydd bod cyfnod newydd mewn barddoniaeth Gymraeg wedi cyrraedd,[6], a chymharodd un beirniad cyhoeddi'r gyfrol Saesneg Lyrical Ballads gan William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge, a gyhoeddwyd yn 1798, gyda'r ddwy gyfrol yn cynrychioli dechrau mudiad rhamantaidd barddonol newydd yn y naill iaith neu'r llall.[7]

Tra'n fyfyriwr yn Rhydychen, daeth yn gyfarwydd ag O. M. Edwards,[8] un o ffigyrau mwyaf blaenllaw'r byd gwybyddol Cymraeg. Anfonodd cyfaill iddo hefyd gopi o Gwlad y Gân a Cherddi Eraill, cyfrol o farddoniaeth T. Gwynn Jones. Disgrifiodd Gruffydd y profiad o'i darllen fel "taranfollt", ac ysgrifennodd lythyr o ddiolch ar y bardd gan ddechrau cyfeillgarwch fyddai'n parhau am weddill ei oes.[9][10] Ym 1902, ymgeisiodd yn aflwyddiannus ar gyfer y Goron yn Eisteddfod Bangor, ar y testun Trystan ac Esyllt: Silyn fu'n fuddugol, ond honnodd Gruffydd yn ddiweddarach (er heb fawr o dystiolaeth) mae 'ail agos' fu ei gerdd ei hun.[11] Bu'r methiant hwn yn ddechrau ar ddadrithiad Gruffydd â'r Eisteddfod, a fyddai'n parhau am flynyddoedd.[12]

Athro Ysgol: 1902-1906

[golygu | golygu cod]

Wedi iddo ymadael â Rhydychen yn 1902, ymgeisiodd yn aflwyddiannus am swydd darlithio Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Gweithiodd am gyfnod byr mewn ysgol yn Scarborough cyn dod yn athro yn ysgol ramadeg Biwmares yn 1904 hyd 1906. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth yn gyfaill i ffigur academaidd Cymraeg pwysicaf y dydd, sef John Morris-Jones, a datblygodd ei gyfeillgarwch hefyd â Gwynn Jones. Bu'r ddau'n ddylanwadol iawn ar Gruffydd, a byddai'n cyfnewid llythyrau gyda'r ddau (a Silyn) yn gyson dros y blynyddoedd nesaf.

Caerdydd a'r Rhyfel: 1906-1918

[golygu | golygu cod]

Ym 1906, llwyddodd o'r diwedd i ennill swydd academaidd pan benodwyd ef yn ddarlithydd yn adran Geltaidd Coleg y Brifysgol, Caerdydd, I gynorthwyo Thomas Powell.[1] Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd casgliad o gerddi dan ei enw ei hun yn unig, Caneuon a Cherddi. Yn 1909, ymgeisiodd eto am y Goron, gyda'i bryddest ar Yr Arglwydd Rhys; y tro hwn yn llwyddiannus.[1] Hon fyddai ei unig fuddugoliaeth Eisteddfodol ac yn wir, byddai perthynas Gruffydd â'r sefydliad hwnnw'n bwnc llosg am lawer o weddill ei fywyd. Camodd i mewn i ffrae gyhoeddus yn y wasg Gymraeg ynghylch ei phwrpas, ei threfniadaeth, a dilysrwydd seremonïau Gorsedd y Beirdd, yn rhannol er mwyn achub cam John Morris-Jones a dderbyniasai beirniadaeth hallt am gwestiynu hynafiaeth seremonïau'r Orsedd (amheuaeth a brofwyd yn gywir yn ddiweddarach).[13] Poenai Gruffydd fwy ynghylch swyddogaeth yr Eisteddfod a'i ddylanwad negyddol (yn ei dyb ef) ar lenyddiaeth Gymraeg. Byddai'r ddadl yn parhau am flynyddoedd ar un ffurf neu'i gilydd, ac yn sefydlu enw cyhoeddus Gruffydd fel gŵr nad oedd ganddo ofn lleisio'i farn na thramgwyddo'r rhai nad oedd yn cyd-weld ag ef.

Yn 1912 gwahoddwyd Gruffydd gan ddarlithydd arall i ysgrifennu drama Gymraeg i'w berfformio gan gymdeithas Gymraeg y coleg.[14] Y canlyniad oedd Beddau'r Proffwydi (1913), drama pedair act am fachgen sy'n cael ei garcharu ar gam; ac er bod y ddrama wedi'i disgrifio fel un "confensiynol"[15] ac nid oedd gan Gruffydd ei hun lawer o feddwl ohoni, ystyriwyd hi'n llwyddiant gan y wasg ar y pryd.[16] Dilynwyd hi'r flwyddyn ganlynol gan Dyrchafiad Arall i Gymro, dychan gwleidyddol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd â'r Royal Naval Reserve, gan weithio ar longau'n clirio ffrwydradau morol. Penderfyniad bwriadol oedd hwn: nid oedd yn cytuno â'r heddychwyr oedd yn gwrthwynebu'r rhyfel yn gyfan gwbl, eto, ni theimlai y gallai ymrwymo i ladd mewn rhyfel yr ystyriai yn "felltigedig". Roedd ei waith yn y llynges yn waith na allai neb amau ei berygl, ond eto'n ddi-drais.[17] Ysgrifennodd rhai cerddi am y rhyfel, gan gynnwys 1914-1918: Yr Ieuainc wrth yr Hen, sy'n wrth-ryfelgar yn eu neges.

Wedi'r Rhyfel: 1918-1927

[golygu | golygu cod]

Yn 1918, yn fuan wedi dychwelyd o'r rhyfel, ymddeolodd Powell, a phenodwyd Gruffydd i'r Gadair Gelteg yn ei le (pennaeth y Gymraeg yn y brifsygol, mewn effaith), lle byddai'n aros nes ei ymddeoliad yn 1946.[1] Cyflwynodd nifer o newidiadau yn y ffordd yr addysgwyd pynciau'r adran, gan ddechrau darlithio yn Gymraeg ac ar lenyddiaeth y bedwaredd ganrif oedd hyd hynny wedi'i anwybyddu'n llwyr ar gyrsiau'r Brifysgol. Yn 1922 daeth yn olgydd ar gylchgrawn newydd Y Llenor - yr unig olygydd a gafodd y cylchgrawn yn ei fodolaeth - lle ymddangosodd nifer sylweddol o weithiau creadigol a beirniadol Gruffydd dros y degawdau nesaf, ynghyd â chyfraniadau gan ystod o brif ffigyrrau beirniadol a llenyddol eraill yr oes. Bu'n lwyfan i lawer o drafodaethau beirniadaol a chreadigol fawr y cyfnod yn y Gymraeg.[18]

Saunders Lewis a Phlaid Cymru: 1927-1939

[golygu | golygu cod]

Daeth un o'r drafodaethau hyn yn berthynas oedd, mewn llawer ffyrdd, i ddiffinio oes Gruffydd o hynny ymlaen, sef ei ddadl hir â'i gyd-academydd Saunders Lewis, oedd yn gweithio ar y pryd ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd Lewis yn ddeuddeg mlynedd yn iau nag ef, ac er eu bod Cymru, ei llenyddiaeth a'i hiaith yn hanfodol bwysig i'r ddau ohonynt roeddynt yn wrthwyneb i'w gilydd mewn llawer ffordd: hanai Gruffydd o'r Fro Gymraeg, roedd yn Anghydffurfiwr, wedi'i addysgu yn Rhydychen, ac yn etifedd i hen draddodiad Rhyddfrydol Gymreig David Lloyd George ac O. M. Edwards. Roedd Lewis, ar y llaw arall, wedi'i fagu'n alltud yn Lerpwl, yn Gatholig, yn Fonarchydd ac yn geidwadwr mewn llawer ffordd, a'i ysbrydoliaeth gwybyddol yn bennaf yn nhraddodiadau athronwyr ceidwadol Ffrainc. Dechreuodd eu dadl o ddifri ar dudalennau'r Llenor yn 1927; ac roedd ei thestunnau'n niferus ond yn cynnwys crefydd, pynciau llenyddol, swyddogaeth yr Eisteddfod a llenyddiaeth yn gyffredinol, addysg, ac eraill.[19]

Ni fyddai'r ddadl rhyngddynt bob amser yn adlewyrchu'n dda arnynt, gyda Gruffydd yn aml yn arddel safbwyntiau rhagfarnllyd, gwrth-Gatholig.[20] Fodd bynnag, nid oedd eu perthynas yn gyfangwbl elyniaethus, gyda Gruffydd yn aml yn cydnabod gwerth gwaith Lewis wrth adolygu ei lyfrau. Ymunodd Gruffydd â'r Blaid Genedlaethol - Plaid Cymru, fel y'i gelwid yn ddiweddarch, sef y blaid a sefylwyd gan Lewis yn 1935; er dadleuodd T. Robin Chapman na fu erioed yn cydweld yn gryf â gwleidyddiaeth y mudiad; [21] serch hynny daethai'n is-lywydd i'r blaid y flwyddyn ganlynol. Bu'n rhan flaenllaw o'r ymgyrch yn erbyn Ysgol Fomio Penyberth a phan ddedfrydwyd Lewis a'i gyd-ymgyrchwyr yn sgil helynt y Tân yn Llŷn bu Gruffydd yn hynod weithgar wrth amddiffyn Lewis a'r lleill yn gyhoeddus, yn y wasg ac ar lwyfannau eraill.

Y Rhyfel a Senedd San Steffan: 1939-1950

[golygu | golygu cod]

Er gwaetha'i rôl flaenllaw gyda'r Blaid Genedlaethol bu Gruffydd yn anesmwyth erioed ynghylch ei chyfeiriad, gan deimlo'i bod yn ymbellhâu oddi wrth ei swyddogaeth gwreiddiol fel mudiad diwylliannol ag amddiffyn yr iaith yn brif flaenorieath iddi.[22] Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd yn 1939, teimlai anesmwythdod pellach ynghylch polisi'r Blaid o niwtraliaeth: er gwaethai'i gydymdeimlad greddfol â heddychiaeth, teimlai bod syniadaeth y Natsiaid yn fygythiad i'r syniadau rhyddfrydol, dyngarol yr oedd wedi'u harddel ar hyd ei oes.[23] Nid ymddiswyddodd yn swyddogol, ond rhoddodd y goru i dalu am ei aelodaeth ar ddechrau'r rhyfel.[24] Wrth dynnu'n groes i'r Blaid daeth Gruffydd felly'n destun dadl gyhoeddus unwaith eto, gyda chyhuddiadau a theisebau'n mynd yn ôl ac ymlaen yn y wasg.

Daeth y ddadl, a bywyd cyhoeddus Gruffydd, i'w hanterth yn 1942. Daeth sedd Prifysgol Cymru yn wag yn sgil penodiad yr aelod Rhyddfrydol, Ernest Evans, yn Farnwr. A hithau'n ryfel, roedd dealltwriaeth rhwng y prif bleidiau i beidio â chystadlu am seddi gweigion; ystyriwyd felly bod gan ymgeisydd y Blaid Genedlaethol, sef Saunders Lewis, gyfle da i'w hennill, yn enwedig yn absenoldeb ymgeisiydd Rhyddfrydol adnabyddus. Roedd union wleidyddiaeth Gruffydd erbyn hyn yn amwys, gydag un sylwebydd yn barnu nad oedd yna'r un blaid wleidyddol fyddai'n gartref iddo.[25] Rhoddwyd pwysau ar Gruffydd i ymgeisio ar gyfer y sedd ar ran y Rhyddfrydwyr o du amryw cyfeiriadau; a chadanhaodd ei fwriad i sefyll ar Rhagfyr 1af. a dadleua T. Robin Chapman mai sefyll yn erbyn Lewis oedd un o'i brif gymhellion.[26] Gwrthwynebu'r Blaid Genedlaethol oedd ei brif blatfform, a gyda chefnogaeth digrybwylledig neu agored y prif bleidiau gwleidyddol eraill ynghyd â llu o unigolion Cymreig blaenllaw, byddai Gruffydd yn ennill yr etholiad yn Ionawr 1943 gyda 3,098 yn erbyn bleidleisiau i Lewis.

Cadwodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 1945 pan gollodd llawer o'i gyd-aelodau Rhyddfrydol eu seddi hwythau; er gwaethaf hyn nid oedd Gruffydd yn wleidydd wrth anian, ac nid ystyriwyd ef yn ymgeisydd am yr arweinyddiaeth.[27] Addysg oedd prif diddordeb ei gyfraniadau fel gwleidydd;[28] ond defnyddiodd ei gyfle hefyd i frwydro o blaid datganoli[29] Daliodd ei sedd hyd 1950 pan diddymwyd seddi'r Prifysgolion.

Y Blynyddoedd Olaf

[golygu | golygu cod]

Er mai yntau oedd y golygydd swyddogol o hyd, lleihaodd cyfraniadau Gruffydd i'r Llenor i bron dim byd yn dilyn y rhyfel; roedd y drwgdeimlad a'r rhwyg gywbyddol yn sgil y brwydro gwleidyddol yn ffactor allweddol yn nirywiad y cylchgrawn, gyda'r cyfraniadau gan brif lenorion eraill y cyfnod yn lleihau'n sylweddol yn ystod yr un cyfnod.[30] Daeth y cylchgrawn i ben yn 1951, er y cyhoeddwyd cyfrol goffa i Gruffydd yn 1954.

Ail-gafaeloedd Gruffydd yn ei waith ysgolheigiol yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan lunio Rhiannon, sef cyfrol sylweddol ar Y Mabinogi. Fodd bynnag erbyn 1953 roedd yn bur sâl, a bu farw ar 29 Medi 1954.

Gwaddol

[golygu | golygu cod]

Fel Llenor

[golygu | golygu cod]

Roedd ymddangosiad Gruffydd fel bardd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ar y cyd â'i gyfoeswyr a'i gyfeillion T. Gwynn Jones ac R. Silyn Roberts, yn cynrychioli dechrau mudiad barddonol newydd;[31] fu'n rhan bwysig o adfywiad llenyddol y cyfnod sydd wedi'i ddisgrifio fel "dadeni"[32] ac "Welsh awakening".[33] Er ystyrir ei weithiau cynnar bellach yn waith prentisiol bardd ifanc, mae ei gerddi aeddfed, yn enwedig y rhai sy'n ymddangos yn Ynys yr Hud a Cherddi Eraill (1923) ac yn dddetholiad o'i gerddi, Caniadau (1932), yn dangos "llymder a sobrwydd disgybliedig"[34] ac yn "gyfraniad gwerthfawr i farddoniaeth Gymraeg".[1] Yn wahanol i rai o'i gyfoeswyr fel T. Gwynn Jones a T. H. Parry-Williams, ni ddatblygodd rhamantiaeth Gruffydd yn foderniaeth, a chymharol ychydig o farddoniaeth ysgrifennodd ar ôl 1930,[35] gan droi fwyfwy at ryddiaith. Ni chwblhaodd nofel, ond casglwyd rhai o'i ysgrifau yn y gyfrol Hen Atgofion (1936).

Nid ysgrifennodd Gruffydd gorff mawr o ddramâu fel y gwnaeth Saunders Lewis, Gwenlyn Parry ac eraill. Serch hyny, oherwydd amseriad a chyd-destun eu cyfansoddi, yn enwedig ei ddrama gyntaf, Beddau'r Proffwydi, ystyrir bod ganddo ran bach ond pwysig yn hanes datblygiad y ddrama Gymraeg.[36] Yn ogystal â Beddau'r Proffwydi a Lluniodd ddrama arall, yn 1928, a chyfieithiad o Antigone Sophocles i'r Gymraeg yn 1950.

Fel Athro, Beirniad ac Ysgolhaig

[golygu | golygu cod]

Roedd cyfraniad ysgolheigaidd Gruffydd ym maes llenyddiaeth Gymraeg yn sylweddol. Yn ei gylchgrawn, Y Llenor, cyhoeddwyd nifer fawr o weithiau beirniadol gan ffiygrau pwysicaf y cyfnod gan gynnwys Saunders Lewis, Ambrose Bebb, R. T. Jenkins, T. H. Parry-Williams, Kate Roberts ac eraill; ymysg y gweithiau llenyddol a gyhoeddwyd yn y gyfrol mae rhai o gerddi Parry-Williams ac R. Williams Parry a straeon byrion Kate Roberts, yn ogstal â llawer iawn o gerddi Gruffydd ei hun. Roedd y cylchgrawn yn "fforwm ar gyfer beirniadaeth lenyddol a rhan helaeth o ysgolheictod llenyddol y cyfnod".[18] Defnyddiodd Gruffydd ei nodiadau golygyddol ei hun i draethu ei farn ar nifer o bynciau'r dydd. Ef oedd awdur rhai o'r astudiaethau beirniadol cynharaf o lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan lunio ysgrifau ar Eben Fardd[37] ac Islwyn[38] ymysg eraill. Gwnaeth lawer o waith hefyd ar Bedair Cainc y Mabinogi, gan gyhoeddi Math vab Mathonwy ar y bedwaredd gainc yn 1928, a Rhiannon, trafodaeth o'r cyntaf a'r drydedd yn 1953. Roedd ei waith academaidd ar y cyfan yn drylwyr ac awdurdodol, er gwaethaf rhai safbwyntiau dadleuol.[39]

Yn 1932 lluniodd Y Flodeugerdd Gymraeg, casgliad o 162 o delynegion gan feirdd amrywiol a ddefnyddiwyd yn helaeth mewn ysgolion am ddegawdau lawer.[40]

Cafodd Gruffydd grin ddylanwad ar ddatblygiad yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Ugeinfed Ganrif. Ar y cychwyn roedd hyn drwy ei beirniadu o'r tu allan; ond pan aethpwyd ati yn 1935 i ddiwygio'r sefydliad bu'n rhan o'r pwyllgorau a chafodd ddylanwad sylweddol ar gyfeiriad y sefydliad o hynny ymlaen, gan chwarae rhan allweddol yn sefydliad y Rheol Gymraeg yn 1937.[41] Daeth yn Lywydd y Llys o 1945 hyd ei farwolaeth.[1]

Yn osgytal â'i ymchwil a'i feirniadaeth, cafodd Gryffudd ddylanwad enfwar ar y modd yr addysgwyd Llenyddiaeth ac Ieitheg Gymraeg yn y prifysgolion. Pan ddechreuodd yntau ddarlithio, yng Nghaerdydd, fel yn y brifysgolion eraill, Saesneg oedd cyfrwng holl ddarlithoedd yr adran; canolbwyntiwyd ar ryddiaith a barddoniaeth y canoloesoedd yn bennaf, ynghyd ag ambell ffigwr diweddarach fel Williams Pantycelyn: nid astudiwyd unrhyw weithiau llenyddol a ysgrifennwyd ar ôl 1800.[33] Y prif disgwyliad ar ran y myfyrwyr oedd iddynt allu cyfieithu testunau i'r Saesneg, a hynny er mwyn dangos eu dealltwriaeth yn hytrach nac i wasanaethu unrhyw ddibenion creadigol.[42][33] Nid Gruffydd oedd yr unig ysgolhaig a fu'n adweithio yn erbyn hyn wrth gwrs, ond dan ei arweinyddiaeth ef y dechreuwyd darlithio yn y Gymraeg o 1919 ymlaen. Caerdydd oedd y cyntaf o'r colegau i wneud hyn, ond dilynwyd yr un patrwm pan agorwyd Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe yn 1921, ac ymhen diwedd yr 1920au roedd Bangor ac Aberystwyth yn gwneud hefyd. Dan gyfarwyddiad Gruffydd, ychwanegwyd deunyddiau mewn Gwyddeleg a Llydaweg at lyfrgell yr adran, dechreuwyd astudio llenorion y bedwaredd Ganrif ar Bymtheg megis Daniel Owen, disgrifiwyd cynnwys cyrsiau'r adran yn Gymraeg ym mhrospectws y coleg, ac yn raddol dechreuwyd cyfeirio at yr adran fel Adran y Gymraeg yn hytrach na 'Chelteg'.[43]

Bywyd Personol

[golygu | golygu cod]

Priododd â Gwenda Evans yn 1909; dan yr enw Gwenda Gruffydd fyddai hithau'n cyhoeddi cyfieithiadau llenyddol. Cawsant un plentyn. Roedd eu perthynas wedi oeri erbyn yr 1920au fodd bynnag, er na fu iddynt ysgaru. Yn 1926 cyfarfu Gruffydd â Mary Davies, gan gynnal carwriaeth lled-gyfrinachol â hithau hyd at ei marwolaeth hi yn 1938, fu'n ergyd drom iddo.[44]

Llyfryddiaeth Ddethol

[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
  • Telynegion (Bangor, 1900). (ar y cyd ag R. Silyn Roberts)
  • Alafon, W. J. Gruffydd ac Eifion Wyn, Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, Yr Awdl, Y Bryddest A’r Telynegion (ail-oreu) (Caernarfon, 1902; yn cynnwys Pryddest aflwyddiannus Gruffydd ar Trystan ac Esyllt).
  • W. J. Gruffydd, Caneuon a Cherddi (Bangor, 1906).
  • W. J. Gruffydd, Ynys yr Hud a chaneuon eraill (Caerdydd, 1923).
  • W. J. Gruffydd, Caniadau (Y Drenewydd, 1932).
  • Bobi Jones (gol.) Detholiad o Gerddi W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1992).

Dramâu

[golygu | golygu cod]
  • W. J. Gruffydd, Beddau’r Proffwydi (Caerdydd, 1913).
  • W. J. Gruffydd, Dyrchafiad arall i Gymro (Caerdydd, 1914).
  • W. J. Gruffydd, Dros y Dŵr (1928)
  • Sophocles, troswyd i’r Gymraeg gan W. J. Gruffydd, Antigone (Caerdydd, 1988).

Gweithiau Beirniadol ac Ysgolheigiol

[golygu | golygu cod]
  • W. J. Gruffydd, Ceiriog (Llundain, 1939). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, The connection between Welsh and Continental literature in the 14th and 15th centuries (Caerdydd, 1909).
  • W. J. Gruffydd, Dafydd ap Gwyilym (Caerdydd, 1935).
  • W. J. Gruffydd, Folklore and myth in the Mabinogion (Caerdydd, 1958).
  • W. J. Gruffydd, ‘Gair Personol’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938).
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl, 1922). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru, rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Wrecsam, 1926). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, Llythyrau’r Morysiaid (Caerdydd, 1940).
  • W. J. Gruffydd, The Mabinogion (Llundain, 1913).
  • W. J. Gruffydd, Math vab Mathonwy : an inquiry into the origins and development of the fourth branch of the Mabinogi (Caerdydd, 1938). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, Rhiannon (Caerdydd, 1953). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, Rhagarweiniad i Farddoniaeth Cymru cyn Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1937).
  • W. J. Gruffydd, ‘Gair Personol’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 26–27.
  • W. J. Gruffydd, Islwyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942) [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, Cofiant O. M. Edwards (1937) [Rhyddiaith]
  • W. J. Gruffydd, Y Morysiaid (The Morris Brothers) (Caerdydd, 1939).

Gweithiau Eraill

[golygu | golygu cod]
  • W. J. Gruffydd, Hen Atgofion (Aberystwyth, 1936). [Rhyddiaith]
  • W. J. Gruffydd, Y Tro Olaf (Aberystwyth, 1939).
  • W. J. Gruffydd, Wil Ni (Lerpwl, 1962).
  • W. J. Gruffydd, cyfieithiad D. Myrddin Lloyd, The Years of the Locust (Llandysul, 1976).
  • W. J. Gruffydd, gyda rhagymadrodd a sylwadau gan T. Robin Chapman, Nodiadau’r Golygydd (Llandybïe, 1986).

Ffynhonellau

[golygu | golygu cod]
  • Chapman, T. Robin (1993). W. J. Gruffydd (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Llwyd, Alan (2019). Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949. Cyhoeddiadau Barddas.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Parry, Thomas. "Gruffydd, William John (Y Bywgraffiadur)". Cyrchwyd 2024-09-28.
  2. Llwyd, t. 140.
  3. Chapman, tt. 4-6.
  4. Chapman, t.9
  5. Chapman, t. 14.
  6. Llwyd, t. 140.
  7. T. H. D. (1930) 'Silyn', Welsh Outlook, 17-11, t.291
  8. Chapman, t. 23.
  9. Llwyd, t. 140.
  10. Chapman, t. 23.
  11. Chapman, t. 24.
  12. Chapman, t. 27.
  13. Chapman, tt.52-53.
  14. Chapman, t. 59.
  15. https://www.dalennewydd.cymru/product-page/dram%C3%A2u-w-j-gruffydd
  16. Western Mail, 13 Mawrth 1913.
  17. Chapman, tt.60-1.
  18. 18.0 18.1 Stephens, Meic (gol.) (1997), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.453
  19. Emyr, John (1986) Gwasg Bryntirion.Dadl Grefyddol Saunders Lewis ac W.J. Gruffydd,
  20. Brooks, Simon (2021) Hanes Cymry, Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru t.200
  21. Chapman, tt. 125-128.
  22. Chapman, tt. 135-6.
  23. Chapman, tt. 165-167.
  24. Chapman, tt. 177.
  25. Jones, Gwilym R; Tir Newydd, Mai 1938, t.38
  26. Chapman, tt. 177-78.
  27. Alun Wyburn-Powell, Clement Davies: Liberal Leader; Politico's, 2003 tt. 140, 142
  28. Chapman, tt. 183-90.
  29. Chapman, tt. 191-92.
  30. Chapman, tt. 183-90.
  31. Llwyd, t. 140.
  32. Rhys, Robert. "T. Gwynn Jones and the Rennaisance of Welsh Poetry" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-18.
  33. 33.0 33.1 33.2 Williams-Parry, R. 'Welsh in the Welsh Colleges', Welsh Outlook Tachwedd 1915, tt.433-6.
  34. Stephens, Meic (gol.) (1997), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.294
  35. Chapman, tt. 172.
  36. "W.J. Gruffydd (Yr Esboniadur)". Cyrchwyd 2024-09-30.
  37. Gruffydd, W. J. 'Eben Fardd' yn Y Llenor 1926 t.137; 252
  38. W. J. Gruffydd, (1942) Islwyn, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
  39. Chapman, t. 68-9.
  40. Chapman, t. 117-118.
  41. Chapman, t. 133-34.
  42. Thomas, Ned (1997) 'Bedd-lladron diwylliannol', tu chwith 8. t.96.
  43. Chapman, t. 67.
  44. Chapman, t. 136-160.

Dolenni Allannol

[golygu | golygu cod]
  • Am lyfryddiaeth lawn o weithiau W. J. Gruffydd, gweler Yr Esboniadur
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod W. J. Gruffydd ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.