Neidio i'r cynnwys

Cwmpawd

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:54, 15 Chwefror 2019 gan Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Cwmpawd traddodiadol.

Teclyn i fforio ydy'r cwmpawd, sy'n caniatáu'r defnyddiwr i ddarganfod y cyfeiriad mae'n dymuno ei wynebu. Gan fod y Ddaear yn atynnu magned i un cyfeiriad arbennig (yr hyn rydy yn ei alw'n "Ogledd"), gallem fesur yr ongl i unrhyw gyfeiriad mewn cylch o 360 gradd. Mae'r pedwar prif gyfeiriad 90 gradd oddi wrth ei gilydd: gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Cyfunir y rhain i ddisgrifio'r cyfeiriad rhyngddynt e.e. gogledd-orllewin, de-ddwyrain. Dywedir fod y gogledd yn sero gradd, a chyfrifir y graddfeydd dilynol yn glocwedd, un gradd, dwy radd, tair gtradd ayb. Mae'r dwyrain yn 90 gradd.

Mae'r cwmpawd traddodiadol yn ddibynnol ar faes magnetig, naturiol y Ddaear, gan wynebu pegynnau magnetig y Ddaear. Mae'r cwmpawd oddi fewn i ffôn yn dibynnu ar geirosgop bychan sy'n troelli.

Cwmpawd Ffôn clyfar sy'n ddibynnol ar "fagnedomedr" o'i fewn.

Hanes

Mae'n debygol mai yn nheyrnasiad Brenhinllin Han, yn Tsieina, y defnyddiwyd y cwmpawd yn gyntaf: rhwng yr 2g a'r ganrif gyntaf. Mae'n fwy na phosib mae ehedfaen (carreg fagnetig naturiol) oedd y fagned a ddefnyddiwyd. Roedd wedi cyrraedd Ewrop erbyn y 12ed ganrif, efallai drwy'r Llychlynwyr. Ganrif wedyn, roedd y cwmpawd sych wedi'i ddarganfod.

Y Cwmpawd Celtaidd

Yn y ddeigram[1] gan y Llydäwr Dominig Kervegant, fe ddangosir perthynas y cwmpawd Llydewig a’r llaw chwith a’r llaw dde.

O gymryd y dwyrain yn hytrach na’r gogledd fel man cychwyn mae gogLEDD, sydd gytras á kleiz (chwith) y Llydaweg, [a tuath yn y Gaeleg] yn dangos bod patrwm cyson yn cysylltu’r Aeleg, y Lydaweg a’r Gymraeg o leiaf.

Yn achos yr Aeleg mae gair yr iaith honno am 'de' hefyd yn golygu 'cywir' ac mae'r rheswm yn mynd â ni yn ôl i'n cyndeidiau heul-addolgar, fel mae Ruairidh MacIlleathain yn esbonio:

Y gair Gaeleg am granc meudwyol yw partan tuathal, yn llythrennol y 'cranc chwithig' (neu trwsgwl). Cysylltir tuathal â chwith (aswy) a gogledd, yn ogystal a bod yn gysylltiedig â 'chwithdod' neu 'anghywirdeb'. Benthycwyd 'partan' o'r iaith Sgotaidd ac fe'i defnyddir o hyd am 'cranc' yn nhafodiaith Sgotaidd y gogledd- ddwyrain. Fe'm hatgoffir gan brif gyfeiriadau'r cwmpawd o'r arferiad hynafol o wynebu'r haul dyrchafol yn y dwyrain, gyda'r deheulaw, neu'r deheubarth, ar y llaw dde! Dwyrain yw an ear a olygai yn wreiddiol 'o flaen', a gorllewin yw an iar, a olygai tu ôl. Fe geir y ddau derm mewn enwau lleoedd - er enghraifft, y gair Gaeleg am Ynysoedd Heledd gorllewin yr Alban yw Na h-Eileanan an Iar.


Y term am 'de' yw deas, sydd hefyd yn golygu 'cywir'. Fe berthyn y gair o bell i'r Lladin dexter ac felly i'r Saesneg dextrous, gydag atgofion eto o 'gywirdeb'.


Cyfyd hyn o naturioldeb symudiad yr haul o'r dwyrain i'r gorllewin trwy ddeheuon y wybren yn hemisffer y gogledd. Gwelir symudiad 'heulwedd' neu glocwedd (a elwir deiseil yn yr Aeleg) hyd heddiw yn niwylliant y Gael fel rhywbeth mwy dymunol na'r gwrthwyneb, sef tuathal. Daw hwn o 'tuath', y gair Gaeleg am gogledd a olygai yn wreiddiol yn 'chwith'.


Awgryma'r gair tuathal wedd ar annaturioldeb neu chwithdod. Mae deas a tuath yn gymharol gyffredin yn y dirwedd - er enghraifft Uibhist a Tuath (North Uist) a Uibhist a Deas (South Uist). Ond mewn llawer o ardaloedd Gaeleg eu hiaith mae dyn yn teithio suas gu deas (‘i fyny i'r de’) a sìos gu tuath (‘i lawr i'r gogledd’), sef yn groes i'r hyn a arferid yn y Gymraeg neu'r Saesneg fodern.[2]

Gweler hefyd

Chwiliwch am cwmpawd
yn Wiciadur.
  1. ym Mwletin Llên Natur rhifyn 45/46 (tud. 2)[1]
  2. Cyfieithwyd i'r Gymraeg o gylchgrawn Scottish Natural Heritage Haf 2011