Neidio i'r cynnwys

Cwmpawd

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:28, 15 Chwefror 2019 gan Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Cwmpawd traddodiadol.

Teclyn i fforio ydy'r cwmpawd, sy'n caniatáu'r defnyddiwr i ddarganfod y cyfeiriad mae'n dymuno ei wynebu. Gan fod y Ddaear yn atynnu magned i un cyfeiriad arbennig (yr hyn rydy yn ei alw'n "Ogledd"), gallem fesur yr ongl i unrhyw gyfeiriad mewn cylch o 360 gradd. Mae'r pedwar prif gyfeiriad 90 gradd oddi wrth ei gilydd: gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Cyfunir y rhain i ddisgrifio'r cyfeiriad rhyngddynt e.e. gogledd-orllewin, de-ddwyrain. Dywedir fod y gogledd yn sero gradd, a chyfrifir y graddfeydd dilynol yn glocwedd, un gradd, dwy radd, tair gtradd ayb. Mae'r dwyrain yn 90 gradd.

Mae'r cwmpawd traddodiadol yn ddibynnol ar faes magnetig, naturiol y Ddaear, gan wynebu pegynnau magnetig y Ddaear. Mae'r cwmpawd oddi fewn i ffôn yn dibynnu ar geirosgop bychan sy'n troelli.

Cwmpawd Ffôn clyfar sy'n ddibynnol ar "fagnedomedr" o'i fewn.

Hanes

Mae'n debygol mai yn nheyrnasiad Brenhinllin Han, yn Tsieina, y defnyddiwyd y cwmpawd yn gyntaf: rhwng yr 2g a'r ganrif gyntaf. Mae'n fwy na phosib mae ehedfaen (carreg fagnetig naturiol) oedd y fagned a ddefnyddiwyd. Roedd wedi cyrraedd Ewrop erbyn y 12ed ganrif, efallai drwy'r Llychlynwyr. Ganrif wedyn, roedd y cwmpawd sych wedi'i ddarganfod.

Y Cwmpawd Celtaidd

Yn y ddeigram[1] gan y Llydäwr Dominig Kervegant, fe ddangosir perthynas y cwmpawd Llydewig a’r llaw chwith a’r ddeheulaw.

O gymryd y dwyrain yn hytrach na’r gogledd fel man cychwyn mae gogLEDD, sydd gytras á kleiz (chwith) y Llydaweg, [a tuathyn y Gaeleg] yn dangos mai patrwm sydd yn cysylltu’r Gaeleg, y Llydaweg a’r Gymraeg yw hwn.

Felly hefyd yn yr Aeleg. Mae'r gair Gaeleg am 'de' hefyd yn golygu 'cywir' ac mae'r rheswm yn mynd â ni yn ôl i'n cyndeidiau heulwen-addolgar, fel mae Ruairidh MacIlleathain yn esbonio:

The Gaelic for the hermit crab is "partan tuathal"", literally the ‘awkward crab’. Tuathal is connected with left and north, as well as being associated with awkwardness and wrongness. The word partan was borrowed by Scots speakers and is still used for ‘crab’ in the Scots dialect of the northeast. The key points of the compass in Gaelic recall the ancient practice of facing the rising sun in the east with the south therefore on the right hand [y deheubarth ar y llaw dde!]. East is an ear, originally meaning ‘in front’, and west is an iar, which meant ‘behind’. Both terms are found in place names – for example, the Western Isles are Na h-Eileanan an Iar in Gaelic. The term for ‘south’ is deas, which also means ‘right’. The word is related distantly to the Latin dexter and therefore to the English ‘dextrous’, and has similar associations with correctness. It derives from the naturalness of sunwise motion (the sun moves from east to west through the south of the sky in the northern hemisphere). Sunwise, or clockwise, motion (called deiseil in Gaelic) is still seen in Gaelic culture as being more favourable than the opposite, which is known as tuathal. This comes from tuath, the Gaelic for north, which originally meant ‘left’. Tuathal has suggestions of unnaturalness or awkwardness, as in partan tuathal (‘awkward crab’), the Gaelic for the hermit crab. Deas and tuath are relatively common in the landscape – for instance, Uibhist a Tuath (North Uist) and Uibhist a Deas (South Uist). But in many areas of the Gàidhealtachd, you travel suas gu deas (‘up south’) and sìos gu tuath (‘down north’), which is the opposite of what you’d say in modern-day English.[2]

Gweler hefyd

Chwiliwch am cwmpawd
yn Wiciadur.
  1. ym Mwletin Llên Natur rhifyn 45/46 (tud. 2)[1]
  2. Ailargraffwyd o gylchgrawn Scottish Natural Heritage Haf 2011