Tîm pêl-droed cenedlaethol Latfia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B Fix URL prefix |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
[[Categori:Pêl-droed yn Latfia]] |
|||
[[Categori:Timau pêl-droed cenedlaethol|Latfia]] |
[[Categori:Timau pêl-droed cenedlaethol|Latfia]] |
||
Fersiwn yn ôl 00:14, 2 Mehefin 2015
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Latfia (Latfieg: Valstsvienība) yn cynrychioli Latfia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Latfia (Latfieg: Latvijas Futbola federācija) (LFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop, (UEFA).
Ffurfiwyd yr Undeb Pêl-droed Latfia (Latfieg: Latvijas Futbola Savieniba) (LFS) ym 1921, daethant yn aelodau o FIFA ym 1922[1] a chystadlu yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis. Ym 1940 cafodd Latfia ei oresgyn gan yr Undeb Sofietaidd gyda'r LFS yn cael ei ddiddymu hyd nes 1991 pan lwyddodd Latfia i sicrhau annibyniaeth.
Ym 1991 ffurfiwyd yr LFF a chwaraewyd eu gêm gyntaf fel gwlad annibynol yn erbyn Estonia ar 16 Tachwedd 1991[1]. Cawsant eu derbyn yn aelodau o UEFA ym 1992[1].
Nid yw Latfia erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ond fe lwyddodd Latfia i gyrraedd Ewro 2004[2].
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Uefa: Latvia history". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Uefa: Euro 2004". Unknown parameter
|published=
ignored (help)